On Air Now

Off Air

9:55pm - 7:00am

Gair Rhydd

  • Taith Dulyn y GymGym

    Gan Hannah Williams Ar benwythnos y 6ed o Fawrth eleni, teithiodd aelodau’r GymGym (Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd) dros y môr i Ddulyn ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon. Bob blwyddyn, mae miloedd o gefnogwyr Cymru yn teithio i amryw o leoliadau, er mwyn cefnogi eu mamwlad yng ngemau rygbi pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ymhlith y cefnogwyr hynny, y mae aelodau’r GymGym, sy’n cynnal … The post Taith Dulyn y GymGym appeared first on Gair Rhydd.

  • Y Llais yn dychwelyd am ail gyfres

    Gan Hannah Williams Ar yr 8fed o Fawrth eleni, dychwelodd Y Llais i’n sgriniau am ail gyfres. Am yr wythnosau nesaf bydd cantorion o hyd a lled Cymru yn ein swyno, wrth i’r hyfforddwyr geisio dod o hyd i seren nesaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Addasiad yw’r rhaglen o gyfres deledu fyd-eang, a chaiff y fersiwn Saesneg, The Voice, ei darlledu ar ITV1. Y cyflwynydd … The post Y Llais yn dychwelyd am ail gyfres appeared first on Gair Rhydd.

  •  “Myfyrwyr yn cael eu gadael i lawr pan maen nhw eisiau mwy o opsiynau yn y Gymraeg”

    Gan Hanna Morgans Gyda’r etholiad Undeb Myfyrwyr ar y gweill, mae’n bryd i fyfyrwyr bleidleisio am y pwyllgor newydd. Eleni un ymgeisydd sy’n mentro am rôl Is-lywydd y Gymraeg yw Owain Siôn, myfyriwr yn ei flwyddyn olaf yn astudio Gwleidyddiaeth. Mae Owain yn wyneb cyfarwydd i fyfyrwyr Cymraeg ac wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr Cymraeg a’r Iaith Gymraeg drwy gydol ei gyfnod yn … The post  “Myfyrwyr yn cael eu gadael i lawr pan maen nhw eisiau mwy o opsiynau yn y Gymraeg” appeared first on Gair Rhydd.

  • Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2026

    Gan Ela Rhys Dros benwythnos hynod gyffrous croesawyd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ôl i’r brifddinas am y tro cyntaf mewn dros ddegawd. Daeth dros 600 o fyfyrwyr o brifysgolion ledled Cymru ynghŷd i ddathlu, cymdeithasu a chystadlu mewn chwip o Eisteddfod. Ond, dechreuodd y penwythnos ddydd Gwener yng Nghanolfan Chwaraeon Talybont ac ar gaeau chwarae Llanrymni, oedd yn gartref i’r cystadlaethau chwaraeon. Roedd cystadlu brwd … The post Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2026 appeared first on Gair Rhydd.

  • “Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic” – Barn Arbenigwyr Iaith

    Gan Gwenno Davies Dros yr wythnosau diwethaf, mae sawl arbenigwr ar yr iaith Gymraeg wedi dadlau dros ddefnydd o “fratiaith,” gan ystyried a ddylid rhoi llai o bwyslais ar ramadeg a threiglo er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r iaith. Doctor Cymraeg Un o’r arbenigwyr hyn yw Stephen Rule, athro Cymraeg yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, sy’n postio fideos hwylus ar y cyfryngau cymdeithasol … The post “Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic” – Barn Arbenigwyr Iaith appeared first on Gair Rhydd.

  • Caerdydd yn y Coch: Yr esgid yn gwasgu wrth i’w diffyg ariannol gynyddu

    Gan Ifan Meredith Mae adroddiad blynyddol Prifysgol Caerdydd yn dangos bod gan y sefydliad ddiffyg ariannol gweithredol o £33.4m yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Gorffennaf 2025. Noda’r adroddiad fod hyn yn cynrychioli ‘sefyllfa sy’n gwaethygu yn gymharol â diffyg gwaelodol y flwyddyn flaenorol’. Roedd diffyg ariannol gweithredol o £31.2 miliwn gan y brifysgol y flwyddyn honno. Dywed yr adroddiad mai gostyngiad mewn incwm ffioedd … The post Caerdydd yn y Coch: Yr esgid yn gwasgu wrth i’w diffyg ariannol gynyddu appeared first on Gair Rhydd.

Recently Played